专业简介
Yn y Gymru gyfoes, gyda thwf sefydliadau megis Llywodraeth Cymru a chyflwyno Safonau’r Gymraeg, mae’r gallu i ddefnyddio’r Gymraeg ar lefel broffesiynol yn hynod ddeniadol i gyflogwyr. Yn yr un modd mae galw cynyddol am raddedigion â sgiliau a phrofiad galwedigaethol. Nod y Rhaglen gyffrous, gyfoes ac amrywiol hon yw cynhyrchu graddedigion sydd yn meddu ar sgiliau academaidd a sgiliau cyflogadwyedd o’r radd flaenaf er mwyn eu paratoi ar gyfer dilyn gyrfa lwyddiannus mewn ystod o feysydd gwahanol.Bydd y Rhaglen yn cynnig llwybr ac iddo ffocws galwedigaethol pendant a fydd yn meithrin ymwybyddiaeth a sgiliau priodol i’r gweithle proffesiynol ac i astudio maes y Gymraeg fel ei gilydd. Y nod fydd arfogi myfyrwyr â gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau ar gyfer y Gymraeg. Cynnwys hyn yrfaoedd sy’n gofyn am wybodaeth a sgiliau penodol, megis cyfieithu, cynllunio ieithyddol a pholisi iaith, addysg neu’r diwydiant treftadaeth, ond ceir hefyd bwyslais ar sgiliau trosglwyddadwy. Bydd y rhain yn galluogi gweithlu i ddefnyddio’r Gymraeg ‘mewn ffyrdd mwy ymarferol, creadigol a difyr’, ys dywedodd y Prif Weinidog wrth lansio gweledigaeth ar gyfer miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Canolbwyntir ar agweddau megis y gallu i gyfathrebu’n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig, y gallu i ddadansoddi a dehongli’r byd o’ch cwmpas mewn modd beirniadol a chreadigol, creu testunau a dogfennau proffesiynol, a’r gallu i weithredu’n annibynnol ar lefel uchel. Disgyblaeth y Gymraeg fydd craidd y Rhaglen a’r nod fydd darparu sgiliau a phrofiadau academaidd a galwedigaethol ar lefel uchel, megis darllen, dehongli a chynhyrchu amrywiaeth o destunau, datrys problemau, creu strategaethau a gweithio fel unigolyn ac mewn tîm. Elfen bwysig o’r Rhaglen yw’r cyfle i ymgymryd â chyfnodau o brofiad gwaith ar leoliad ym Mlynyddoedd 2 a 3 er mwyn cymhwyso’r wybodaeth a’r sgiliau a enillir mewn modd ymarferol i’r byd gwaith go iawn.Mae’r Rhaglen hon yn agored i fyfyrwyr sydd wedi astudio Cymraeg Safon Uwch iaith gyntaf neu ail iaith. Er mai’r un radd a enillir gan bob myfyriwr o gwblhau’r rhaglen astudio yn llwyddiannus, mae’r Ysgol yn cynnig llwybrau gwahanol i fyfyrwyr iaith gyntaf ac ail iaith ym Mlwyddyn 1 er mwyn eich cynorthwyo i bontio’n effeithiol rhwng Safon Uwch a lefel y radd. Bydd myfyrwyr y flwyddyn gyntaf yn astudio modiwlau penodol yn unol â’r llwybr a ddilynir.Ymhlith nodweddion mwyaf arwyddocaol y Rhaglen hon y mae:y cyfle i ddilyn llwybr sy’n gosod pwyslais ar agweddau galwedigaethol a datblygu sgiliau ymarferol sy’n eich paratoi ar gyfer y gweithle proffesiynol cyfoesRhaglen sydd wedi ei gwreiddio yn nisgyblaeth y Gymraeg ac sy’n datblygu sgiliau perthnasol i’r byd academaidd ac i’r byd gwaith fel ei gilyddmodiwlau craidd sy’n canolbwyntio ar gyflogadwyedd, ac sy’n cynnig cyfle i ymgymryd â chyfnodau o brofiad gwaith ar leoliad ym Mlynyddoedd 2 a 3 er mwyn cymhwyso eich dealltwriaeth a’ch sgiliau i’r byd gwaith go iawny pwyslais ar sgiliau ymchwil ymarferol a fydd o fudd ichi drwy gydol eich gyrfa y pwyslais a roddir ar ddysgu annibynnol mewn awyrgylch cefnogolystod o fodiwlau dewisol, amrywiol sy’n astudio’r iaith, ei llenyddiaeth a’i diwylliant ac sy’n cynnig cyfle i arbenigo mewn meysydd o ddiddordeby profiad o gael eich addysgu gan staff a fydd yn eich adnabod fel unigolyny profiad o gael eich addysgu gan ddarlithwyr sy’n weithredol ym myd ymchwil, ac sy’n seilio eu haddysgu ar ymchwil yn nisgyblaeth y Gymraeg
- 课程时长: 1-2年或以学校或offer为准
- 学费: £15,950.00 (¥ 142,792) /年 此费用为固定收费 以学校或offer为准
- 开学时间: 每年2或7月
- 总学分: 0
- 是否移民专业: 否 访问官网链接
入学要求
为来自中国的学生设计
Students need to have successfully complete their high school certificate with grades of at least 80% (or an average of grade B) in addition to a recognised one year foundation programme.
如何申请
- 申请材料要求
- 是否需要文书 是
- 申请费 100澳币
- 申请周期 1-2月
已录取的相似专业申请案例
卡迪夫大学相关专业