专业简介
Mae hon yn radd amlddisgyblaethol i rai sydd a diddordeb mewn gweithio a phlant a phobl ifanc ond nad ydynt eto wedi penderfynu ar lwybr gyrfa.Byddwch yn astudio modiwlau arloesol, a arweinir gan staff profiadol o’r Ysgol Addysg, i ddatblygu eich dealltwriaeth o hanes plentyndod, hawliau plant, natur plentyndod a swyddogaeth oedolion sy’n gweithio â phlant mewn cyd-destun cenedlaethol, Ewropeaidd a rhyngwladol. Byddwch yn gwneud gwaith astudio academaidd ym meysydd seicoleg, cymdeithaseg, polisi cymdeithasol, addysg, iechyd a lles yn ymwneud a bywydau plant.Diffinnir Plentyndod fel bywyd plentyn o’i flynyddoedd cynnar i flynyddoedd yr arddegau, ac mae cynnwys y rhaglen yn canolbwyntio ar dair prif thema Plentyndod:Y Plentyn a’i (d)datblygiadY Plentyn a chymdeithasY Plentyn a byd addysgBydd y rhaglen drwyddi draw yn hyrwyddo sgiliau astudio a dealltwriaeth i wneud ymchwil i faterion yn ymwneud a phlentyndod.Nod y radd Astudiaethau Plentyndod yw diwallu’r angen presennol am arbenigwyr gyda chymwysterau da a all weithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd mewn ystod o gyd-destunau, yn y gymuned ac mewn sefydliadau. Yn y rhaglen ceir cyfuniad o sylfaen academaidd gadarn ynghyd a dimensiwn ymarferol a gweithredol a fydd yn cynhyrchu gweithwyr proffesiynol a all ymdopi a sialensiau cymdeithas gyfoes a phrysur mewn gwlad ddwyieithog.Yn ystod y radd ceir cyfleoedd bob blwyddyn i fynd ar leoliadau i ddatblygu eich dealltwriaeth o agweddau ar anghenion a datblygiad plant ac i wneud ymchwil i faterion ac ymarfer cyfredol.Elfen allweddol o’r rhaglen yw’r amrywiaeth o siaradwyr gwadd ac ymweliadau addysgol, a fydd yn cyfoethogi’r hyn mae’r myfyrwyr yn ei ddysgu. Mae’r rhain yn cynnwys y cyfle i wirfoddoli a gwneud gwaith gyda phlant o gymunedau difreintiedig yn Romania ac i ymweld a Krakow yng ngwlad Pwyl a chydag arddangosfeydd mewn amgueddfeydd yn Lerpwl.
- 课程时长: 1-2年或以学校或offer为准
- 学费: 以学校或offer为准
- 开学时间: 每年2或7月
- 总学分: 0
- 是否移民专业: 否 访问官网链接
入学要求
为来自中国的学生设计
Entry criteria for students with International Baccalaureate will vary depending on the course they choose. Mature students will be considered on a case by case basis.
如何申请
- 申请材料要求
- 是否需要文书 是
- 申请费 100澳币
- 申请周期 1-2月
已录取的相似专业申请案例
班戈大学相关专业